Llanfyllin: Diwrnod o Hyfrydwch a Darganfod
- Discover Powys
- 5 days ago
- 3 min read
Darganfyddwch berlau cudd Llanfyllin, tref gyfareddol yng nghesail bryniau mwyn Powys. Llanfyllin, lle mae mwynder y bryniau fel tonnau a’r cyfaredd yn llifo fel cwrw da Cymreig. Mae’r hen dref fach hon yn drysorfa o hanes, natur a diwylliant lleol sy'n aros am eich ymweliad. Dilynwch yr amserlen hon am ddiwrnod llawn antur, chwerthin, ac efallai hyd yn oed ysbryd neu ddau. Ydych chi’n barod i grwydro? Beth am ddechrau arni!

Bore
Wyrcws Llanfyllin (Y Dolydd)
Dechreuwch eich diwrnod gydag ymweliad â Wyrcws hanesyddol Llanfyllin, a elwir hefyd yn Y Dolydd, ar gyrion y dref. Mae'r adeilad hwn o'r 19eg ganrif, a achubwyd rhag mynd a’i ben iddo drwy ymdrechion gymunedol, yn cynnig cipolwg diddorol i'r bywyd caled yr oedd y cyn-garcharon yn eu hwynebu yno. Dechreuwch yn y ganolfan hanes i archwilio arteffactau a straeon personol, yna crwydrwch drwy'r cynteddau, iardiau ac ystafelloedd cysgu ar lwybr hanes hunan-dywys. Cynrychiolir Llanfyllin fodern hefyd drwy gyfrwng y stiwdios artistiaid lleol, llety bync, a'r ystafell ddianc ar thema môr-ladron, Roomination.
Crwydro'r Strydoedd
Ar ôl eich gwers hanes, ewch am dro hamddenol drwy strydoedd bywiog Llanfyllin. Ewch i'r siopau hyfryd, caffis clyd, a’r tafarndai traddodiadol. Wrth ichi grwydro, chwiliwch am blaciau glas sy'n coffáu straeon hanesyddol, gan gynnwys hanesion carcharorion o Ffrainc yn ystod y rhyfeloedd Napoleonig.
Prynhawn
Gardd Gymunedol Cae Bodfach ac Afon Cain
Ewch i Ardd Gymunedol Cae Bodfach, perllan heddychlon a gwarchodfa bywyd gwyllt wedi'i llenwi â choed ffrwythau treftadaeth a blodau gwyllt gwenyn-gyfeillgar. Ar ôl mwynhau yn harddwch yr ardd, dilynwch y rhodfeydd pren a godwyd ar hyd Afon Cain. Mae'r ardal hon yn gyfoethog gydag adar, planhigion ac anifeiliaid, sy'n ei wneud yn lle perffaith i bobl sy'n frwd dros natur a ffotograffwyr.
Egwyl Cinio
Stopiwch am ginio yn un o dai bwyta deniadol Llanfyllin. Dewiswch o ddetholiad o dafarnau, caffis a bwytai lleol sy'n cynnig popeth o lond plataid Cymreig traddodiadol i dameidiau ysgafn a seigiau ffres o ffynonellau lleol.
Eglwysi a Chapeli
Treuliwch eich prynhawn yn crwydro addoldai nodedig Llanfyllin. Dechreuwch yn Eglwys eiconig Sant Myllin, gyda'i chloc glas ac aur arbennig. Sefydlwyd yr eglwys yn y 7fed ganrif, ac mae rhan helaethaf o’r adeilad presennol yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 1700au. Parhewch â'ch taith ag ymweliadau â Chapel y Tabernacl sy’n dyddio o ddechrau'r 20fed ganrif a Chapel Annibynnol Cymraeg Pen Dref o'r 18fed ganrif. Mae pob adeilad, a adeiladwyd o'r brics coch nodweddiadol, yn adrodd stori am dreftadaeth gyfoethog Llanfyllin.
Gyda’r Nos
Ffynnon Myllin
Wrth i'r diwrnod ddirwyn i ben, ewch am dro i fyny'r lôn gul ar ymyl gogledd-orllewinol y dref i ymweld â Ffynnon Myllin. Byddai Sant Myllin yn bedyddio yn y ffynnon sanctaidd hanesyddol hon yn y 6ed ganrif. Mae’r ffynnon wedi'i chysgodi o dan fwa carreg. Mae'n llecyn heddychlon i fyfyrio ar wreiddiau hanesyddol dwfn Llanfyllin.
Swper a Thro Gyda'r Nos
Gorffennwch eich diwrnod gyda swper blasus yn un o fwytai neu dafarndai lleol Llanfyllin. Mwynhewch y lletygarwch cynnes a'r prydau lleol arbennig. Ar ôl swper, ewch am dro gyda'r nos drwy strydoedd prydferth y dref neu ar hyd Afon Cain, gan werthfawrogi'r awyrgylch tawel wrth i'r haul fachlud dros y bryniau.
Llanfyllin: Pethau Hynod ac Ambell Syrpreis
Bwmp yn y Nos: Mae Wyrcws Llanfyllin hefyd yn fan poblogaidd i’r sawl sy’n ymddiddori yn y paranormal. Mae modd i helwyr ysbrydion logi’r llety bync ar y safle a chrwydro’r coridorau tywyll i chwilio am ddrychiolaethau rhithiol.
Cangen Arbennig: Daeth y Goeden Unig, pinwydd Albanaidd sydd wedi sefyll ar fryn Green Hall ers 200 mlynedd, yn symbol o gydnerthedd ar ôl cael ei chwythu drosodd yn 2014. Er fod y goeden wedi dymchwel, enillodd Wobr Coeden Gymreig y Flwyddyn 2014.
Trwy Apwyntiad Brenhinol: Rhoddwyd siarter tref i Lanfyllin ym 1293 gan Llywelyn ap Gruffydd, un o reolwyr brodorol Cymru. Ynghyd â'r Trallwng, mae'n un o'r ychydig drefi i gael yr anrhydedd hon.
Cysylltiad Ffrengig: Yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonig, cartrefodd Llanfyllin bron i 150 o garcharorion rhyfel o Ffrainc, gan gynnwys y Capten Pierre Augeraud, a adawodd etifeddiaeth barhaol drwy briodi menyw leol a chael disgynyddion wedi'u claddu ym mynwent y dref.
Wel, Wel: Daw enw Llanfyllin o Sant Myllin, mynach o Iwerddon a sefydlodd fynachlog yma yn y 6ed ganrif. Ei ffynnon sanctaidd yw'r lle cyntaf ym Mhrydain lle perfformiwyd bedyddiadau drwy drochi.
Comments