Mae mis Awst ym Mhowys yn llawn dathliadau bywiog ac ysbryd cymunedol, sy’n ei wneud yn un o’r adegau gorau o’r flwyddyn i ymweld â’r ardal hardd hon.
Mae Powys yn cynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau at ddant pawb, o wyliau bwyd a sioeau amaethyddol i gerddoriaeth a chwaraeon moduro. Wrth i’r haf gyrraedd ei anterth (neu ddechrau eleni), mae tirweddau prydferth Powys yn darparu’r cefndir perffaith i ddathlu diwylliant, talent a thraddodiad lleol dros fis cyfan. P’un a ydych chi’n breswylydd neu’n ymwelydd, mae mis Awst ym Mhowys yn addo profiadau bythgofiadwy…
3 Awst
Sioe Sir Aberhonddu
Aberhonddu
Diwrnod arbennig i’r teulu cyfan yn cynnwys atyniadau da byw a phrif gylch, yn ogystal â digwyddiadau domestig, garddwriaeth, neuadd fwyd a chrefftau.
4 Awst
Gerddi Llanidloes ar agor ar gyfer CGC
Llanidloes
Cymysgedd o erddi i’r cyhoedd a gerddi preifat, gan gynnwys dwy ardd gymunedol, rhandiroedd, iard a gerddi bythynnod.
4 Awst
Gerddi ‘The Meadows’ ar agor ar gyfer CGCCaersws
Cymysgedd eclectig o feysydd gyda themâu gwahanol. Planhigion unflwydd lliwgar, planhigion lluosflwydd a llwyni.
9 – 11 Awst
Gŵyl Jazz Aberhonddu
Aberhonddu
Mae Gŵyl Jazz Aberhonddu yn ŵyl gerddoriaeth a gynhelir yn flynyddol yn Aberhonddu, ac mae wedi croesawu amrywiaeth o gerddorion jazz o bob cwr o’r byd.
10 Awst, ar agor 09:00 - 19:00
Sioe LlanfyllinParc Bodfach, Llanfyllin
Digwyddiad amaethyddol blynyddol sydd wedi bod yn dathlu bywyd cefn gwlad a diwylliant Cymreig ers dros ganrif.
10 Awst, ar agor 13:00 - 18:00
Sioe Maldwyn
Maldwyn
Mae Sioe Maldwyn yn dathlu traddodiadau amaethyddol y rhanbarth gydag amrywiaeth fywiog o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd.
15 – 18 Awst
Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Crug Hywel
Er iddo arfer bod yn ddigwyddiad gwerin bach gyda dim ond ychydig gannoedd o bobl, erbyn hyn mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi tyfu i fod yn un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yn ystod tymor gŵyl yr haf.
17-18 Awst
Gerddi Brookside ar agor ar gyfer CGC
Llandrindod
Gardd hardd ar lan nant yn Llandrindod. Gwelyau a borderi llysieuol lliwgar, llain lysiau a gwenynfa fach, gwlypdir a choetir. Heddwch, harddwch a lliwiau, gyda bywyd gwyllt cyfoethog yng nghanol golygfeydd godidog.
18 – 24 Awst
Gŵyl Machynlleth
Machynlleth
Rhaglen eithriadol sy’n arddangos y gerddoriaeth Gymreig, glasurol, rhyngwladol, jazz a gwerin orau, ochr yn ochr â barddoniaeth, darlithoedd, arddangosfeydd a mwy.
19 - 25 Awst
Gŵyl Fictoraidd Llandrindod
Llandrindod
Camwch yn ôl mewn amser i amrywiaeth hudolus o atyniadau Fictoraidd, o orymdeithiau stryd cain i ffeiriau hanesyddol a pherfformiadau drama’r cyfnod.
22-26 Awst
Gŵyl Llanandras
Llanandras
Cymysgedd o gerddoriaeth newydd, clasuron yr 20fed ganrif, a champweithiau o repertoire safonol. Mae hefyd yn cynnwys ffilmiau, llenyddiaeth, ac arddangosfeydd celf.
24 Awst
Sioe a Charnifal Tref-y-clawdd,
Tref-y-clawdd,
Dathliad o ddiwylliant lleol, amaethyddiaeth, ac ysbryd cymunedol, yn cynnig ystod eang o weithgareddau ac atyniadau i ymwelwyr o bob oedran.
24 Awst
Sioe Aberriw
Llwyfan i ffermwyr, crefftwyr a pherfformwyr lleol arddangos eu sgiliau ac ymgysylltu â’r gymuned.
25 Awst
Pencampwriaethau Snorcelu Cors y Byd
Llanwrtyd
Gwisgwch eich snorcel, eich siwt wlyb, a’ch fflipwyr a llywiwch eich ffordd trwy gors fwdlyd, llawn dŵr…
25 Awst
Sioe Amaethyddol Llangynidr
Llangynidr
Fel rhan o Sioe Amaethyddol Llangynidr, gall ymwelwyr fwynhau diwrnod llawn gweithgareddau gwledig traddodiadol, gan gynnwys beirniadu da byw, stondinau crefft, a bwyd lleol blasus.
26 Awst
Sioe Arddwriaethol a Chwaraeon Llanfechain
Llanfechain
Diwrnod allan hyfryd gydag amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gynnwys arddangosfeydd garddio ysblennydd, cystadlaethau chwaraeon, ac atyniadau amrywiol i ymwelwyr o bob oedran.
Comments