Tref-y-clawdd
Tref-y-clawdd
Mae Tref-y-clawdd, sy’n sefyll ar dir sydd wedi bod yn destun nifer o frwydrau rhwng Cymru a Lloegr, wedi symud yn ôl a blaen dros y ffin erioed, cyn setlo yn y pen draw fel canolfan masnachol ac amaethyddol. Mae hi dal yn rhan bwysig o gymuned wledig Powys er mae llawer o ymwelwyr yn cael eu denu yma bellach gan lwybr cerdded cenedlaethol enwog, Llwybr Clawdd Offa. Ond mae llawer mwy o atyniadau’n perthyn i Dref-y-clawdd na llwybrau cerdded yn unig - mae llu o bethau i’w gweld a’u gwneud yma os byddwch yn dewis dod â’ch ’sgidiau cerdded ai peidio.
Y peth cyntaf a welwch ar eich ffordd mewn i’r dref yw ei lleoliad - yng nghanol bryniau coediog gwyrdd, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, mae’n dref bert. Mae’n gwneud argraff gadarnhaol arnoch ar unwaith, wrth ichi gyrraedd canol y dref. Mae strydoedd canoloesol yn troelli allan o dŵr y cloc trawiadol, sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, yn gyfoeth o adeiladau hanesyddol sy’n ymestyn yn ôl dros y canrifoedd. Un o’r ffyrdd hawsaf i deithio trwy amser yw trwy grwydro’r strydoedd hyn.
Er bod hanes y dref yn amlwg iawn, mae’n llawn bwrlwm a phrysurdeb heddiw hefyd. Cynhelir marchnad da byw yma bob wythnos, pan ddaw ffermwyr o’r ardal leol i brynu a gwerthu da byw a dal fyny gyda newyddion yr ardal. Ac os nad yw defaid a buchod o ddiddordeb ichi, mae’r stryd fawr yn llawn orielau, caffis a siopau bwyd unigryw ochr yn ochr â siopau mwy traddodiadol tref farchnad, megis cigyddion, siop nwyddau haearn a thafarndai gwledig deniadol.
Ar y Ffin
Mae Tref-y-clawdd yn enwog oherwydd ei safle ar Glawdd Offa. Ar un adeg roedd y clawdd hwn, o ffosydd a chloddiau sy’n dyddio o’r 8fed ganrif yn ymestyn o ‘fôr i fôr’ o’r gogledd i’r de rhwng Cymru a Lloegr. Cafodd ei adeiladu gan Y Brenin Offa o Fersia fel ffin swyddogol cyntaf er mwyn diogelu ei diroedd; erbyn heddiw mae iddo rôl ddeuol, fel safle archeolegol unigryw a llwybr cerdded enwog (sy’n mesur 177 milltir/285km o hyd).
Gallwch ddysgu am y ddau yng Nghanolfan Clawdd Offa yn y dref, sy’n adrodd hanes creu’r clawdd (tasg enfawr oedd yn golygu defnyddio miloedd o weithwyr), ei ail-ddarganfod a’i ddadeni trwy gyfres o arddangosfeydd hynod ddiddorol.
Os hoffech weld y llwybr a’r clawdd eich hun, croeswch y caeau chwarae wrth y canolfan. Yma fe welwch faen hir sy’n cofnodi agor y llwybr ym 1971 a darn o’r clawdd hynafol lle gallwch grwydro ar ei hyd, sydd mewn cyflwr da (na phoenwch, ni fydd disgwyl ichi gerdded y llwybr cyfan).
Hanes lleol
Mae’n anodd dychmygu gwell ffordd i ddod i adnabod Tref-y-clawdd go iawn, na thrwy ymweld ag Amgueddfa Tref-y-clawdd. Mae’r archif yn seiliedig ar roddion gan drigolion y dref, sy’n golygu ei fod yn gasgliad gwirioneddol eclectig o arddangosfeydd.
Trwy chwilota trwy’r cofnodion, fe welwch ddogfennau cyfreithiol o’r 18fed ganrif sy’n cofnodi gwerthu darnau tir lleol, hen deganau tun, poteli meddyginiaeth Fictoraidd o hen fferyllfa’r dref, offer cerddorol, a ffonau symudol enfawr, yn debyg i frics, o’r 1980au (peth hollol newydd i ymwelwyr iau, sydd wedi arfer â ffonau llawer mwy cyfleus y dyddiau hyn).
Ond y peth gorau oll, nid yw gwydr yn diogelu’r arddangosfeydd hyn. Mae polisi’r amgueddfa (a’r staff gwybodus a chyfeillgar) yn annog ymwelwyr i ryngweithio gyda’r arteffactau. Mae’n debyg i chwilota yn atig cyffredin y dref. Un eithriad nodedig i’r rheolau hyn yw injan dân hynafol yr amgueddfa, sy’n cael ei dynnu â llaw. Ei enw cyfarwydd yw ‘Old Squirter’ ac yn dyddio o 1780, hwn yw un o ddau sy’n goroesi hyd heddiw o offer ymladd tân anghyffredin i’w gweld yn y DU.
Bach a Mawr
Mae rhwydwaith strydoedd troellog Tref-y-clawdd yn haeddu ymweliad, ond mae gwrthgyferbyniad perffaith rhwng dau ohonynt. Y Stryd Lydan yw prif stryd y dref, ac yn gartref i ddewis o siopau, orielau, tafarndai a llefydd bwyta, lle gallwch brynu popeth o offer cerddorol a chig lleol, i flodau ffres a chelf gain.
Yn arwain o’r Stryd Lydan, y mae’r Stryd Fawr, sydd yn fwy cul, a elwir hefyd ‘The Narrows’ (am resymau amlwg). Hwn oedd y prif lwybr ar gyfer cerbydau wrth deithio trwy’r dref, ond bellach fe’i neilltuwyd ar gyfer cerddwyr yn unig. Mae llu o siopau diddorol yn llenwi’r adeiladau o’r 17eg ganrif, ar naill ochr y stryd a’r llall - gan gynnwys nifer fawr sy’n gwerthu teganau a modelau.
Tri mewn un
Mae Eglwys Edward Sant yn sefyll ar ben y bryn, gyda Choedwig Kinsley oddi tano, ar ochr ogleddol (dim gwobrau am hyn) Stryd yr Eglwys. Credir taw hon yw’r unig eglwys trwy Gymru a gysegrwyd i’r Sant yma, mae wedi bod yn destun tri cham datblygu hollol wahanol.
Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol yn ystod y canoloesoedd, a chafodd ei ail-adeiladu unwaith yng nghanol y 1700au cyn cael ei ail-adeiladu’n llwyr fwy neu lai, yn ystod cyfnod Victoria. Mae’r mwyafrif o’r hyn sy’n weddill heddiw yn dyddio o gyfnod datblygu diweddaraf yr eglwys, ar wahân i’r tŵr sgwâr sydd â sylfaen o’r 14eg ganrif, ac estyniad uwch a ychwanegwyd yn y 18fed ganrif.
CURIOSIAETHAU A SYLWADAU
-
Goresgynwyr gofod. Ar ochr bryn ychydig filltiroedd y tu allan i Drefyclo mae cartref syfrdanol telesgop mwyaf Cymru. Mae'n rhan o'r Spaceguard Centre, arsyllfa seryddol sy'n astudio effeithiau asteroidau a chomedau - ac yn cadw llygad ar yr awyr ar gyfer Gwrthrychau Ger y Ddaear a allai fod yn fygythiad i'n planed.
-
Diwrnod sba. Ar ochr orllewinol y dref mae ffynnon naturiol a elwir yn Ffynnon Siaced. Credir iddo gael ei ddarganfod mor bell yn ôl â'r Oes Efydd, yn ôl y sôn roedd ei dyfroedd yn gwella anhwylderau fel ysigiadau a rhewmatism. Yn ystod oes Fictoria bu'n ganolbwynt ymgais fyrhoedlog i ailfrandio Trefyclo fel tref sba. Er gwaethaf priodweddau meddyginiaethol y ffynnon, ni ddechreuodd yr ymdrechion hyn.
-
Ty hanner ffordd. Saif Tref-y-clawdd bron yn union ar bwynt canol llwybr cerdded cenedlaethol Llwybr Clawdd Offa, 177 milltir/285km. Gan ddilyn y ffin hynafol rhwng Cymru a Lloegr, mae’r llwybr yn dod i mewn i’r dref o’r de trwy Goed y Ffrydd ac yn mynd ymlaen ar hyd glannau Afon Teme ychydig i’r gogledd o Ganolfan Clawdd Offa.
-
Dyma'r Ffordd. Nid Llwybr Clawdd Offa yw’r unig hawliad i enwogrwydd cerdded Tref-y-clawdd. Mae’r dref hefyd yn fan cychwyn ar gyfer Llwybr Glyndŵr, sy’n dechrau wrth dwr y cloc ar Broad Street. Wedi'i enwi ar ôl Owain Glyndŵr, y rheolwr Cymreig a wrthryfelodd yn erbyn Harri IV ym 1400, mae'r llwybr yn ymdroelli am 135 milltir/217km trwy Ganolbarth Cymru, gan orffen yn y Trallwng yn y pen draw.
-
Tiriogaeth sy'n destun anghydfod. Roedd lleoliad tref-y-clawdd ar y ffin yn ei wneud yn ganolbwynt ar gyfer gwrthdaro rhwng y Cymry a’r Saeson. O ganlyniad, mae'r dref fechan wedi bod yn gartref i ddau gastell. Y gyntaf oedd caer bren ar lan yr afon o'r enw Bryn-y-Castell, ac yna castell carreg wedi ei adeiladu ar ben uchaf y dref erbyn hyn. Cafodd y ddau strwythur eu dinistrio yn y pen draw, er bod olion eu gwrthgloddiau i'w gweld o hyd.
-
Ydych chi'n cymryd y fenyw hon? Roedd un o draddodiadau mwy anarferol (a diolch byth wedi dod i ben) Trefyclo yn cael ei adnabod fel ‘gwerthu’r wraig’. Byddai dynion sy'n dymuno cael ysgariad yn gwneud hynny trwy ddod â'u priod ar ddiwedd rhaff i'r fan lle saif tŵr y cloc yn awr. Cofnodwyd yr enghraifft olaf o'r dull rhyfedd hwn o wahanu ym 1842.
DIWRNOD YM MYWYD
Mae digon o bethau i’ch diddanu am ddiwrnod yn Nhref-y-clawdd. Rydym wedi nodi nifer o bethau na fyddwch am eu colli, a’r drefn y byddech yn hoffi delio gyda nhw efallai. Er hynny, awgrymiadau’n unig yw’r rhain, ac mae croeso ichi newid y drefn pe dymunir. Ac os ydych chi’n brin o amser ac mae gennych lai na diwrnod cyfan yma, dewiswch eich hoff fannau sydd o ddiddordeb.
Canolfan Clawdd Offa
Wrth gwrs mae enw Cymraeg y dref yn seiliedig ar y clawdd hynafol sy’n rhedeg trwy’r dref oedd ar yn adeg yn nodi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Gallwch ddysgu holl hanes y clawdd (a’i ddadeni fel llwybr cerdded cenedlaethol ym 1971) yn y canolfan ymwelwyr hynod ddiddorol, ac wedyn cerdded ar draws y caeau chwarae at y llwybr ei hun. Gwyliwch allan am yr obelisg a godwyd i gofnodi agor y llwybr gan yr Arglwydd John Hunt - oedd yn aelod o’r tîm a ddringodd i gopa Everest ym 1953.
Llwybr Treftadaeth
Trwy grwydro strydoedd troellog Tref-y-clawdd, gallwch ddilyn taith trwy ganrifoedd o hanes. Dringwch tua brig y dref ac i weld hen Sgwâr y Farchnad (Canolfan canoloesol Tref-y-clawdd) a’r hyn sy’n weddill o gastell y dref, a ddinistriwyd amser maith yn ôl.
Ar Stryd y Gorllewin, fe welwch Hen Dŷ hanner pren, a Thŷ Chandos sy’n dyddio o’r 17eg ganrif (sydd yn gartref siop cebab bellach), ac ar y Stryd Lydan, mae tŵr y cloc amlwg iawn, sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, a’r hen fanc; mae adeilad y banc yn wahanol i weddill pensaernïaeth y dref oherwydd y pileri gwenithfaen pinc a’r gromen wyrdd.
Siopa (a mwy) ar y Stryd Lydan
Stryd Lydan Tref-y-clawdd yw canolbwynt bwrlwm y dref. Gallwch grwydro a mwynhau edrych ar luniau yn siop Knighton Fine Art, gitârs yn siop Knighton Music a phopeth o stofiau llosgi coed i grochenwaith yn siop Prince a Pugh, siop nwyddau haearn sydd dros 100 mlwydd oed. Hefyd mae dewis eang o gaffis, tafarndai a siopau bwydydd arbenigol lle gallwch fagu nerth newydd yn barod i ddarganfod mwy o’r dref.
Amgueddfa Tref-y-clawdd
Cymerwch gip ar hanes Tref-y-clawdd yn yr amgueddfa gymunedol unigryw hon. Cafodd ei hadeiladu o roddion gan bobl oedd yn byw yma, ac mae’n cynnig cipolwg eclectig a hynod ddiddorol ar fywyd y dref. Mae popeth yma - o deipiaduron hynafol a dogfennau hanesyddol, i hen offer ffermio a chylchgronau a chomics yn mynd nôl degawdau. Ond y peth gorau oll, maent yn annog ichi gyffwrdd â’r arddangosfeydd, sy’n caniatáu ichi brofi hanes y dref gyda’ch dwylo eich hunan.
Eglwys Edward Sant
Yn dyddio nôl i’r cyfnod canoloesol, mae nifer o straeon diddorol yn gysylltiedig ag eglwys blwyf Tref-y-clawdd. Cafodd ei adeiladu a’i ail-adeiladu dros y canrifoedd, ac mae’r bensaernïaeth yn cynnwys atgofion adegau gwahanol ei fywyd hir, megis tŵr sydd â sylfaen yn dyddio o’r 14 ganrif a tho o’r 18fed ganrif.