Gwyliau Bwyd a Diod
Darganfod Blas ar Bowys:
Canllaw i’r Gwyliau Bwyd a Diod mwyaf Blasus
Croeso ichi, bobl sy’n hoff o fwyd, i wlad hud gastronomaidd Powys!
Nid yn unig yw’r talp hyfryd hon o Gymru’n wledd i’r llygaid gyda’r bryniau godidog a phentrefi hudolus, ond mae arlwy ar gael i’ch blasbwyntiau hefyd.
Yn y rhanbarth yma, mae pob tref sy’n cynnal gŵyl fwyd mor unigryw â phluen eira - ond yn llawer mwy blasus, ac yn llawer llai tebygol o doddi yn eich dwylo.
Wrth grwydro strydoedd Aberhonddu, bydd aroglau selsig yn hisian, a bara newydd ei bobi’n atyniad, ac mae pawb y dewch ar eu traws yr un mor frwdfrydig am fwyd â chithau. Wedyn, yn y Drenewydd, mae’r strydoedd hanesyddol yn fwrlwm gyda chreadigrwydd coginiol sy’n peri i’ch blasbwyntiau wneud y cha-cha.
Nid bwyta’n unig yw diben y gwyliau hyn – er, credwch chi ni, byddwch yn gwneud digonedd o hynny. Mater ydynt o ddathlu’r ffermwyr gweithgar, y crefftwyr hynod glyfar
a’r gwreiddioldeb godidog sy’n gwneud Powys yn baradwys bwyd. Byddwch yn dod o hyd i’r caws mwyaf hufennog neu gwrw crefft sy’n sicr o roi gwên ar eich wyneb.
Felly, chwiliwch am eich trowsus sy’n barod i ehangu a byddwch yn barod ar gyfer antur llawn blas, hwyliog trwy galon Cymru.
Mae gwyrthiau coginiol yn digwydd mewn gwyliau bwyd Powys, yma y caiff straeon eu rhannu, ac mae pob tamaid yn creu atgof i’r dyfodol.
Os taw archwaethwr profiadol ydych, neu rywun sy’n dwli ar fwyd da, mae breichiau Powys ar led a phlatiau gorlawn yma i’ch croesawu.
Gŵyl Fwyd Y Drenewydd
Gwefan: https://www.newtownfoodfestival.org.uk/home
Dyddiad: 7 a 8 Medi
Lleoliad: Gerddi Neuadd y Dref, Y Parc, Y Drenewydd, Powys, SY16 2NZ
Tref agosaf: Y Drenewydd
Strafagansa deuddydd yw Gŵyl Fwyd Y Drenewydd sy’n trawsnewid y dref hanesyddol hon yn gyrchfan ar gyfer pobl sy’n frwdfrydig am fwyd. Cynhelir yr ŵyl yng nghalon y dref, ac mae’n cynnwys arddangosfa wych o stondinau bwyd, sy’n dangos popeth o gigoedd a chaws lleol i fwydydd stryd rhyngwladol. Mae cerddoriaeth fyw ac adloniant yn ychwanegu at awyrgylch yr ŵyl, sy’n golygu diwrnod allan llawn hwyl i’r teulu cyfan. Gyda ffocws ar gynnyrch lleol ac ysbryd y gymuned, mae Gŵyl Fwyd Y Drenewydd yn dathlu treftadaeth goginiol gyfoethog y dref a’i dyfodol llewyrchus.
Ffair Hydref Canolbarth Cymru
Gwefan: https://midwalesautumnfayre.co.uk/
Dyddiad: 5 a 6 Hydref
Lleoliad: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair ym Muallt LD2 3SY
Tref agosaf: Llanfair ym Muallt
Mae Ffair Hydref Canolbarth Cymru, sy’n cael ei threfnu ichi eleni gan Mid Wales Fayres Limited, yn addo bod yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen. Cynhelir y ffair yng nghalon cefn gwlad Cymru, ac mae’n ddathliad go iawn o gynnyrch yr hydref. Cyfle i fwynhau cerddoriaeth fyw trwy gydol y penwythnos a rhyfeddu at theatr y gegin lle bydd y cogyddion gorau o Gymru gyfan yn arddangos eu sgiliau coginiol. Gallwch bori’r gweithdai celf a chrefft, a blasu amrediad eang o’r bwydydd a diodydd gorau sydd ar gael trwy Gymru.
Ond nid dyna ddiwedd ar yr hwyl. Gyda dros 100 o lorïau arddangos, hen dractorau a cheir o dras yn rhan o’r arddangosfa mae digonedd o bethau i’ch diddanu. Gallwch fwynhau perfformiadau byw gan The Quack Pack a Bwyellwyr Cymru, manteisio ar gyffwrdd â ffrindiau hyfryd fferm mwytho Will, neu herio eich hun mewn un o ddwy ystafell ddianc Beyond Breakout. Gyda chymaint o weithgareddau teuluol, Ffair Hydref Canolbarth Cymru yw’r ffordd berffaith i ddathlu dyfodiad yr hydref gyda ffrindiau ac anwyliaid.
Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog
Gwefan: https://breconbeaconsfoodfestival.co.uk/
Dyddiad: 5 Hydref
Lleoliad: Neuadd y Farchnad, Stryd y Farchnad, Aberhonddu LD3 9DA
Tref agosaf: Aberhonddu
Bydd unigolion sy’n dwli ar fwyd yn dod at ei gilydd yng Ngŵyl Fwyd Aberhonddu - diwrnod o ymblesera a darganfod. Mae’r ŵyl hon, a gynhelir yng nghalon tref Aberhonddu, yn ymwneud â dathlu blasau lleol a chreadigrwydd coginiol. Wrth grwydro’r rhesi o stondinau byddwch yn dod ar draws popeth o selsig arbennig a llysiau organig i siocled neilltuol a chwrw crefft. Cynhelir arddangosiadau coginio byw a gweithdai rhyngweithiol, sy’n ychwanegu agwedd addysgol at yr hwyl. Os taw archwaethwr profiadol ydych, neu’n syml iawn yn chwilio am ddiwrnod gwych allan, mae Gŵyl Fwyd Aberhonddu’n addo gwledd o flas ichi ac amser anhygoel.
Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
Gwefan: https://rwas.wales/winter-fair/
Dyddiad: 25 / 26 Tachwedd
Lleoliad: Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Llanfair ym Muallt LD2 3SY
Tref agosaf: Llanfair ym Muallt
Pan fydd oerfel y gaeaf yn curo’r drws, mae Llanfair ym Muallt yn newid yn wlad hud Nadoligaidd ar gyfer Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfuniad bendigedig o hwyl y Nadolig a rhagoriaeth goginiol. Dychmygwch oleuadau’n disgleirio, aroglau gwin cynnes, a sŵn pobl yn canu carolau i greu’r awyrgylch wrth ichi grwydro stondinau llawn danteithion y tymor. O gigoedd rhost sy’n toddi yn eich ceg, i bwdinau bendigedig, mae’r Ffair Aeaf yn wledd ym mhob ystyr. Y lle perffaith i ddod o hyd i roddion unigryw a mwynhau’r cynnyrch lleol gorau; atyniad hanfodol ar gyfer eich tymor gwyliau.