top of page
Zodiac_AlynWallacePhotography_2048.jpg

Awyr Dywyll

Reach_AlynWallacePhotography_2048.jpg

Mae awyr y nos yn gwneud mwy na disgleirio – mae’r serennu!


Os ydych chi wedi blino ar oleuadau dinasoedd yn troi edrych ar y sêr yn gêm o “Ddyfalu pa seren wanllyd yw honno,” mae gwefr nefolaidd yn eich disgwyl. Mae ein hardaloedd Awyr Dywyll yn debyg i blanetariwm byd natur ei hun, ond gyda gwell seddi a phopgorn hynod resymol. O ‘olygfeydd trawiadol Bannau Brycheiniog i arddangosfeydd serol Mynyddoedd Cambrian’ mae’r awyr yn yr ardal hon mor glir, gallwch feddwl fod y sêr yn dangos eu hunain.
Hwyrach taw dymuno gweld seren wib ydych, neu’n cael pleser o edrych ar urddas y Llwybr Llaethog, mae’r awyr dywyll yn y rhan hon o Gymru’n cynnig seddi yn y rhes flaen i fwynhau sioe odidog natur. Felly, gadewch y llygredd golau tu ôׅl ichi, dewch â’ch teimlad o ryfeddod, a byddwch yn barod i olygfa nefolaidd Powys eich swyno.

stars .jpg

Awyr Dywyll Bannau Brycheiniog


Wrth iddi nosi dros Fannau Brycheiniog, mae’r hud yn dechrau go iawn. Fel un o Warchodfeydd Awyr Dywyll ddynodedig y DU, mae’r parc cenedlaethol godidog yma’n cynnig cyfleoedd heb eu hail i wylio’r sêr. Diolch i lygredd golau isel iawn, gallwch ryfeddu at y canopi o sêr, cael golwg ar alaethau pell, a hyd yn oed gweld y Llwybr Llaethog ar noson glir. Mae Bannau Brycheiniog yn trawsnewid yn faes chwarae nefolaidd ar ôl iddi dywyllu, gan estyn gwahoddiad ichi orwedd yn ôl, syllu i’r awyr a cholli’ch hun yn harddwch rhyfeddol y bydysawd.

1.png
2.png

Awyr Dywyll Cwm Elan


Mae Cwm Elan, gyda’r cronfeydd dŵr godidog a’r tirweddau llyfn, yn troi’n baradwys i seryddwyr wrth iddi nosi. Mae’n enwog am gael awyr hynod dywyll, ac mae’r perl yma’n cynnig cefnlen berffaith i edrych ar y sêr. Mae diffyg llygredd golau trefol yn caniatáu golygfeydd aruthrol o awyr y nos, pan fydd tyrrau o sêr a sêr gwib yn mynnu eich sylw. Os taw seryddwr profiadol ydych, neu unigolyn sy’n gwylio’n achlysurol, mae Cwm Elan yn cynnig lleoliad heddychlon i fwynhau harddwch y bydysawd.

Awyr Dywyll Mynyddoedd Cambrian


Mae Mynyddoedd Cambrian yn hafan i bobl sy’n chwilio am heddwch awyr y nos. Gyda rhai o’r awyr mwyaf tywyll trwy Gymru gyfan, mae’r rhanbarth diarffordd yma’n cynnig cyfleoedd rhyfeddol i wylio’r sêr. Mae diffyg golau artiffisial yn golygu y gallwch fwynhau arddangosfa ryfeddol o’r sêr, y planedau a chawodydd o sêr gwib. Delfrydol ar gyfer unigolion amatur sy’n mwynhau’r sêr, a seryddwyr profiadol, mae Mynyddoedd Cambrian yn cynnig hafan heddychlon gyda’r bydysawd yn mynnu eich holl sylw.

3.png
4.png

Canolfan Space Guard, Tref-y-clawdd


Beth am fentro i fyd rhyfeddod y bydysawd yng Nghanolfan Space Guard yn Nhref-y-clawdd. Mae’r lleoliad hynod ddiddorol yma’n cynnig golwg o’r newydd ar wyddoniaeth gofod a seryddiaeth, ynghyd ag arddangosfeydd rhyngweithiol a thelesgopau o’r radd flaenaf. Cyfle i ddarganfod rhyfeddodau’r bydysawd, dysgu am sêr gwib, a mwynhau sesiynau syllu ar y sêr dan arweiniad. Y Ganolfan hon yw eich porth i’r sêr sy’n golygu bod rhaid ei chynnwys ar eich rhestr ymweliadau i unrhyw un sy’n awyddus i ehangu gorwelion a darganfod mwy am ryfeddodau’r gofod.

Cymuned Awyr Dywyll Llanandras a Norton


Beth am gamu i freuddwyd unigolion sy’n syllu ar y sêr yn Llanandras, y gymuned gyntaf drwy Gymru i gael statws Cymuned Awyr Dywyll Ryngwladol.
Gydag ymrwymiad i ddiogelu harddwch naturiol awyr y nos, mae Llanandras yn cynnig lleoliad eithriadol i syllu ar y sêr. Gan fod llygredd golau’r dref mor isel, mae amrywiaeth odidog o sêr, planedau a ffenomena nefolaidd i’w gweld. Os byddwch yn crwydro’r strydoedd deniadol, neu’n penderfynu mwynhau noson o wylio’r awyr, mae Llanandras yn cynnig dihangfa swynol lle bydd dim ond y bydysawd ei hun yn serennu.

5.png
bottom of page