Penwythnos Antur Hydref
26 a 27 Hydref 2024
Fis Hydref hwn, ewch ar ddiahangfa i Gwm Elan am benwythnos llawn antur, creadigrwydd a natur i’ch cyfareddu.
Mae Penwythnos Antur Cwm Elan, sy'n cael ei gynnal gan Ddigwyddiadau Powys, yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn rhoi gwefr ac yn ysbrydoli ymwelwyr o bob oed. O heriau awyr agored i bwmpio’r adrenalin i grefftau ymarferol, mae rhywbeth i bawb. Nodwch y dyddiadau, 26 a 27 Hydref i baratoi am brofiad bythgofiadwy.
Cynnig Arbennig
Disgownt Unigryw ar Fferm Gigrin
– Gwylio’r Barcud Coch
Fel rhan o Benwythnos Antur Cwm Elan, rydym yn gyffrous wrth gynnig disgownt arbennig yn Fferm Gigrin, un o'r lleoedd gorau yn y DU i wylio'r barcutiaid coch gosgeiddig ar waith.
Defnyddiwch y cod hyrwyddo **PCC24** i dderbyn disgownt ar archebion ar gyfer y Maes Gwylio a’r Cuddfannau Safonol. Mae'r cynnig hwn yn ddilys ar gyfer archebion a wneir rhwng 1 Hydref a Dydd Llun, 28 Hydref 2024. Er nad yw'r disgownt ar gael ar gyfer Cuddfannau Ffotograffig, mae'n gyfle perffaith i brofi'r adar anhygoel hyn yn agos a gwella eich penwythnos yn y Canolbarth. Archebwch nawr i sicrhau eich lle!
Cyflenwyr a Gweithgareddau Dan Sylw:
Fferm Pentre – Fferm Dros Dro:
Cysylltwch â natur a mynd ati i gael profiad ymarferol gydag anifeiliaid ar fferm dros dro. Perffaith i deuluoedd a'r rhai sy'n caru cefn gwlad.
Beyond Breakout – Ystafelloedd Dianc Symudol:
Heriwch eich sgiliau datrys posau a phlymio’n ddwfn i'r ystafelloedd dianc symudol hyn. Allwch chi weithio fel tîm a dianc cyn i’r amser ddod i ben?
Weiren Sip Beeline a Wal Ddringo:
Hedfanwch drwy’r awyr ar weiren sip symudol gwefreiddiol Beeline, neu dewch i weld pa mor gryf ydych chi ar eu wal ddringo; hyn oll wrth fwynhau golygfeydd trawiadol Cwm Elan ar yr un pryd.
Rhaffau Uchel a Chaiacio gyda EV Lodge:
Ewch i'r uchelfannau ar y cwrs rhaffau uchel neu fwynhau tawelwch dyfroedd Cwm Elan gyda sesiynau caiacio dan arweiniad.
Dysgu Yn yr Awyr Agored – Crefft byw yn y gwyllt:
Datblygwch eich sgiliau goroesi gyda gweithgareddau byw yn y gwyllt fel cynnau tân a sgiliau cyllell, neu ddysgu sut i adnabod eich ffordd drwy’r anialdir yn y nos.
Ffotograffiaeth Nos gyda Dafydd Wyn Morgan:
Ymunwch â'r ffotograffydd lleol Dafydd Wyn Morgan am noson o ffotograffiaeth nos. Dysgwch sut i ddal gafael ar harddwch Cwm Elan dan y sêr.
Teithiau Beicio Mynydd gyda Pippa Boss:
Archwiliwch Gwm Elan ar daith feiciau mynydd dan arweiniad Pippa Boss. P'un a ydych chi'n ddechreuwr neu'n brofiadol, mae'r teithiau hyn yn ffordd wych o brofi’r dirwedd.
Helyg Gwy – Gwehyddu Helyg:
Rhowch gynnig ar wehyddu helyg a chreu rhywbeth unigryw â llaw gyda chymorth crefftwyr arbenigol Helyg Gwy.
Syllu ar y Sêr gydag Ymddiriedolaeth EV:
Profwch ryfeddod awyr y nos gyda sesiwn o syllu ar y sêr a gynhelir gan Ymddiriedolaeth Cwm Elan. Mae awyr dywyll Cwm Elan yn llecyn perffaith i weld y sêr.
Carad – Castio Môr-gyllell a Chrefftau Galw Heibio:
Byddwch yn greadigol gyda sesiynau crefft galw heibio Carad, gan gynnwys y profiad unigryw o gastio môr-gyllell, a chyfle i wneud eich mwclis draig eich hun.
Celf – Greu Mwgwd:
Crëwch eich mwgwd unigryw eich hun yn y sesiwn gwneud mwgwd hwyliog ac artistig hon, sy'n berffaith ar gyfer plant ac oedolion.
Chwarae Maesyfed – Gweithgaredd Crefft:
Ymunwch â Chwarae Maesyfed am fwy o hwyl gyda chrefftau ymarferol. Manylion i'w cadarnhau, ond fe fydd yn siŵr o fod yn boblogaidd gyda phob oedran.
Hen Fws Gwennol Boultons:
Teithiwch mewn steil ar hen fws gwennol Boultons, sy’n cynnig taith rhwng y dref gyfagos a Chwm Elan gyda’r golygfeydd hyfryd.